Cwestiynau Cyffredin



Mae’r wybodaeth yn gymwys i’r ddeddfwriaeth, y fethodoleg a’r EPCs cyfredol.



C. Mae’r EPC yn dweud bod y perfformiad yn ‘Wael’ neu’n ‘Wael iawn’. Beth yw ystyr hyn?
Mae’r "Perfformiad Cyfredol - Effeithlonrwydd Ynni" yn dangos faint y mae’r elfen yn ei gyfrannu at gostau tanwydd yr annedd. Os yw perfformiad effeithlonrwydd ynni elfen yn ‘Wael’, neu’n ‘Wael Iawn’, yna mae hynny’n golygu bod yr elfen yn arwain at gostau tanwydd i’r annedd sy’n uwch na’r cyfartaledd.
Mae’r " Perfformiad Cyfredol – Amgylchedd" yn dangos faint y mae’r elfen yn ei gyfrannu at allyriadau’r nwy tŷ gwydr carbon deuocsid (CO2). Mae perfformiad amgylcheddol elfen yn ‘Wael’ neu’n ‘Wael iawn’ os yw’n peri bod mwy na’r cyfartaled o CO2 yn cael ei gynhyrchu.
Perfformiad sydd dan sylw yma, nid golwg. Nid yw’r asesiad yn ystyried cyflwr ffisegol nac ansawdd yr elfen. Mae’n awgrym o faint yn fwy (neu faint yn llai) y bydd y cartref yn ei gostio i’w redeg ac yn ei gyfrannu at allyriadau CO2.


C. Pam mae’r costau cynhesu posibl yn fwy na’r costau gwresogi cyfredol pan fo’r EPC yn argymell gosod goleuadau ynni-isel?
Mae hyn yn digwydd pan fydd goleuadau ynni-isel yn cael eu hargymell ac nad oes argymhelliad ynglŷn â gwella’r system wresogi (fel arfer am fod system effeithlon wedi’i gosod yn barod ). Mae bylbiau golau safonol yn cynhyrchu mwy o wres na bylbiau golau ynni-isel; drwy osod bylbiau ynni-isel yn lle bylbiau safonol, mae’r gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan y goleuadau yn gostwng ac mae’n rhaid i’r system wresogi wneud iawn am y gwahaniaeth. Mae’r gostyngiad yng nghost y goleuadau gryn dipyn yn fwy na’r cynnydd yng nghost y gwres, felly mae yna ostyngiad net yng nghostau ynni’r eiddo.


C. Mae’r costau sy’n cael eu dangos ar yr EPC yn uwch na’r biliau ynni gwirioneddol am y flwyddyn. Pam hynny?
Mae EPCs yn defnyddio rhagdybiaethau safonedig i sicrhau bod modd i adeiladau gael eu cymharu’n uniongyrchol, gan adlewyrchu nodweddion yr adeiladau unigol yr un pryd. Mae’r costau mewn EPC yn cael eu seilio ar nifer o ragdybiaethau: patrwm gwresogi safonedig, nifer y deiliaid, faint o ddŵr poeth sy’n cael ei ddefnyddio a’r tywydd. Mae’r ffactorau hyn yn amrywio’n sylweddol rhwng aelwydydd gwahanol, hyd yn oed os ydyn nhw’n byw mewn adeiladau tebyg.


C. Pam mae’r costau ynni sy’n cael eu dangos ar dudalen blaen fy EPC yn is na’m biliau ynni?
Mae meddiannaeth safonol yn cael ei defnyddio er mwyn sicrhau bod yr EPCs yn gallu cael eu cymharu gan ddarpar brynwyr neu ddarpar denantiaid â chartrefi eraill. Mae’r costau yn yr EPC yn cynnwys yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwres, golau a dŵr poeth, ond nid y ffyrdd eraill i ddefnyddio ynni mewn adeilad, er enghraifft coginio neu offer trydan. Mae EPC yn cael ei gyfrifo ar sail meddiannaeth safonol yn hytrach na sut mae’r unigolyn yn defnyddio’r adeilad, a gall yr offer sy’n cael eu defnyddio amrywio’n sylweddol rhwng defnyddwyr.


C. Beth mae’r crynodeb o nodweddion perfformiad ynni’r cartref hwn yn ei ddangos?
Ar dudalen 3 o’r Dystysgrif Perfformiad Ynni mae yna grynodeb o berfformiad ynni’r annedd. Mae pob elfen o’r annedd (waliau, toeon, system wresogi, etc.) wedi cael asesiad o ran yr effeithlonrwydd ynni cyfredol a’r perfformiad amgylcheddol. Mae’r asesiad yn defnyddio’r raddfa ganlynol: Gwael iawn, Gwael, Cymedrol, Da, Da iawn. Mae’r perfformiad yn cael ei asesu gan y feddalwedd ar sail oedran yr eiddo, y math o adeilad a’r nodweddion.
Perfformiad sydd dan sylw yma, nid golwg. Nid yw’r asesiad yn ystyried cyflwr ffisegol nac ansawdd yr elfen.




C. Rydw i wedi ychwanegu inswleiddiad at y tŷ, ond isel yw’r cyfraddiad SAP a dydy’r EPC ddim yn dangos yr inswleiddiad. Pam hynny?
Arolwg sy’n cael ei wneud heb fynd dan yr wyneb yw’r arolwg RdSAP ac er mwyn i inswleiddiad gael ei gynnwys yn yr asesiad mae’n rhaid bod yna dystiolaeth, yn weledol neu mewn dogfennau, bod gwaith penodol yn ymwneud â’r eiddo wedi’i asesu. Mae hynny’n golygu nad oes modd cynnwys inswleiddiad os yw wedi’i osod ond na all yr asesydd ynni ei gyrraedd i’w arolygu neu os nad oes tystiolaeth ddogfennol. Yn yr achosion hyn, mae lefel yr inswleiddiad yn cael ei rhagdybio ar sail oedran y rhan berthnasol o’r annedd.
Mae hyn yn wir am inswleiddiad yn y to, y lloriau a’r waliau.




C. Does bosib bod fy nhŷ i’n well na’r awgrym yn yr adroddiad?
Mae’r EPC yn rhoi gwybodaeth am berfformiad ynni’r eiddo ar hyn o bryd, a’i berfformiad ynni posibl. Does dim sôn am gyflwr presennol yr eiddo na chyflwr y gwaith addurno.


C. Mae gen i system wresogi drydan fodern iawn yn fy nghartref i. Ond mae tudalen 3 o’r EPC yn dweud mai effeithlonrwydd ynni ‘Gwael iawn’ sydd gan y ‘Prif Ddull o Wresogi’. Pam hynny?
Mae perfformiad cyfredol y ‘Prif Ddull o Wresogi’ yng ngholofn ‘effeithlonrwydd ynni’ y tabl ar dudalen 3 o’r EPC yn gysylltiedig â chost rhedeg y system wresogi. Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth pris y tanwydd sy’n cael ei ddefnyddio (fesul KWh) ac effeithlonrwydd yr offer gwresogi. Mae trydan gryn dipyn yn ddrutach na nwy o’r prif gyflenwad. Ar hyn o bryd, nwy o’r prif gyflenwad yw un o’r mathau rhataf o danwydd.
Er enghraifft, os oes gan gartref fwyler sy’n defnyddio nwy o’r prif gyflenwad bydd yn costio llai i’w redeg na bwyler trydan neu wresogyddion storio trydan. Mae’r golofn “Effeithlonrwydd Ynni” yn y tabl ar dudalen 3 o’r EPC yn rhoi gwybod i’r defnyddiwr felly am ei system wresogi o safbwynt cost yn unig. Oherwydd hynny, bydd y disgrifiadau yn y golofn yn newid yn dibynnu ar y tanwydd sy’n cael ei ddefnyddio ac effeithlonrwydd y system wresogi.
Hyd yn oed er y gall system wresogi trydan fod 100% yn effeithlon yn y fan lle mae’n cael ei defnyddio, gan droi’r cyfan o’r trydan yn wres defnyddiol, fe fydd yn dal yn ddrutach i berchennog cartref ei rhedeg na bwyler ar y prif gyflenwad nwy sydd 65% yn effeithlon. Bydd bwyler nwy yn colli gwres wrth droi’r tanwydd sy’n llosgi yn wres defnyddiol i’r eiddo, ond mae costau is y nwy o’r prif gyflenwad yn arbed mwy na chost y colledion.




C. Beth yw asesiad ynni RdSAP?
Mae Asesydd Ynni Achrededig yn ymweld â’r eiddo i gasglu dim ond yr wybodaeth y mae ei hangen er mwyn asesu nodweddion ynni, gan greu’r dystysgrif ar sail adeiladwaith a math yr annedd a’r ffitiadau perthnasol (systemau gwres, inswleiddiad neu ffenestri dwbl, er enghraifft).
Nid arolwg strwythurol nac arolwg o’r adeilad yw hyn, nac adroddiad ar gyflwr na phrisiad eiddo. Ni ddylai EPC gael ei darllen fel sylw ar gyflwr cyffredinol yr eiddo ac ni fydd yn cynnig sylwadau chwaith ar bresenoldeb neu absenoldeb asbestos, concrit sment â llawer o alwmina, ychwanegion gan gynnwys calsiwm clorid, nac unrhyw ddiffygion adeiladu neu ddeunyddiau peryglus.
Ni fydd yr asesiad ychwaith yn cynnwys eitemau neu broblemau yn yr eiddo a fyddai’n cael eu codi mewn arolwg adeilad, ac a allai fod yn ddrud i’w cywiro, gan fod y rheiny y tu allan i gwmpas y data sy’n cael ei gasglu.




C. Mae fy EPC yn rhestru nifer o argymhellion sy’n ymddangos yn amhriodol gan eu bod yn argymell newid eitemau sydd newydd gael eu diweddaru, eu hadnewyddu neu eu disodli.
Yr unig beth sydd dan sylw mewn EPC yw dod o hyd i berfformiad cyfredol a pherfformiad posibl yr eiddo o ran ynni. Nid yw asesiad yr EPC yn edrych ar oed na chyflwr ffisegol unrhyw un o’r elfennau sy’n cael eu hasesu; dim ond yr effeithlonrwydd ynni.


C. Mae fy EPC diweddar yn argymell newid fy mwyler cyfredol am fwyler newydd “band A”, ond dim ond yn ddiweddar y newidies i’r bwyler. Pam hynny?
Mae’r EPC yn edrych ar berfformiad ynni posibl yr eiddo ac yn yr achos hwn mae wedi gweld nad y bwyler mwyaf effeithlon sydd ar gael yw’ch bwyler cyfredol. Mae’r argymhelliad ynglŷn â gwella’r bwyler drwy gael bwyler mwy effeithlon o safbwynt ynni yn cael ei wneud ar sail cyfraddiad effeithlonrwydd ynni y bwyler yn unig ac nid yw’n cymryd i ystyriaeth oed neu gyflwr y bwyler sydd wedi’i osod ar hyn o bryd. Mae’r argymhelliad hwn yn nodi bod bwyleri mwy effeithlon ar gael ac y dylai perchennog y cartref ystyried hynny y tro nesaf y bydd rhaid iddo gael bwyler newydd.


C. Cyfraddiad isel sydd gan fy nhŷ i ond doed dim opsiynau ar gyfer gwella – pam?
Mae’r cyfraddiadau posibl wedi’u seilio ar fabwysiadu gwelliannau cost-effeithiol. Efallai mai dim ond gwelliannau estynedig, mwy costus sydd wedi’u nodi ar gyfer eich eiddo chi; os felly, mae’r rhain i’w gweld tua diwedd yr adroddiad o dan "Mesurau pellach".


C. Rwy’n credu bod gen i system wresogi LPG/olew effeithlon iawn yn fy eiddo i. Ond mae tudalen 3 o’r EPC yn dweud mai effeithlonrwydd ynni ‘Gwael/Cymedrol’ sydd gan y ‘Prif Ddull o Wresogi’. Pam hynny?
Mae perfformiad cyfredol y ‘Prif Ddull o Wresogi’ yng ngholofn ‘effeithlonrwydd ynni’ y tabl ar dudalen 3 o’r EPC yn gysylltiedig â chost rhedeg y system wresogi. Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth pris y tanwydd sy’n cael ei ddefnyddio ac effeithlonrwydd yr offer gwresogi. Mae nwy o’r prif gyflenwad yn danwydd cymharol rad; mae olew gryn dipyn yn ddrutach ac mae LPG (Nwy Petrolewm Hylifol) yn ddrutach byth.
Oherwydd hynny, os oes gan gartref fwyler sy’n defnyddio nwy o’r prif gyflenwad bydd yn costio llai i’w redeg na bwyler olew neu LPG sydd yr un mor effeithlon.
Mae’r golofn “Effeithlonrwydd Ynni” yn y tabl ar dudalen 3 o’r EPC yn rhoi gwybod i’r defnyddiwr am ei system wresogi o safbwynt cost yn unig. Felly, mae’r disgrifiadau yn y golofn yn newid yn dibynnu ar y tanwydd sy’n cael ei ddefnyddio ac effeithlonrwydd y system wresogi. Er enghraifft, bydd bwyler cyddwyso nwy yn dangos “Da” neu “Da iawn”, ond bydd bwyler olew sydd yr un mor effeithlon yn dangos “Cymedrol” a bydd bwyler LPG yr un mor effeithlon yn dangos “Gwael”.




C. Mae gen i raglennydd a thermostat ar fy mwyler ond ar dudalen 3 o’r EPC, mae’n dweud mai cyfraddiad effeithlonrwydd ynni “Gwael” neu “Gwael Iawn” sydd gan y ‘Prif offer rheoli gwres’. Sut gall hynny fod?
Yn ôl y rheoliadau adeiladu cyfredol, mae’r safonau’n cael eu bodloni fel arfer drwy osod rhaglennydd ar y bwyler, drwy ddarparu thermostat ystafell a thrwy osod falfiau rheiddiadur thermostatig (TRVs) ar bob un ond un o’r rheiddiaduron. Byddai gan gartref â’r cyfan o’r tri hyn gyfraddiad gwell yn y tabl ar dudalen 3 o’r EPC na "Gwael" neu "Gwael iawn"; sy’n gymwys i eiddo sydd heb bob un o’r tair cydran hyn.

Mae eiddo lle mae rhaglennydd yn caniatáu i’r deiliad reoli’r amserau y bydd y gwres yn gweithio.

Mae thermostat sydd wedi’i leoli ar y bwyler ei hun yn rheoli tymheredd llif y dŵr sy’n ymadael â’r bwyler yn unig ac mae’n ffordd lai effeithlon o reoli tymheredd ystafell na thermostat ystafell. Mae thermostat ystafell sydd wedi’i osod ar wal fewnol yn yr eiddo yn caniatáu i’r deiliaid osod y tymheredd yn yr eiddo, a bydd yn creu gwell lefelau cyffyrddusrwydd i’r deiliad na thermostat ar y bwyler.

Mae TRVs yn caniatáu i’r deiliaid osod tymheredd gwahanol mewn ystafelloedd gwahanol, gan wella ymhellach eto ar y lefelau cyffyrddusrwydd yn yr annedd.

Bydd ychwanegu thermostat ystafell a TRVs yn gwella cyfraddiad perfformiad cyfredol y ‘Prif offer rheoli gwres‘ ar dudalen 3 o’r EPC. Mae yna fathau eraill mwy soffistigedig o reoli’r gwres hefyd, fel rheoli parthau a rheolwr ynni bwyler.



C. Mae eiddo’n cael ei wresogi â gwresogyddion trydan confensiynol ac mae’r EPC yn argymell gosod gwresogyddion storio. Mae’r newid yn sgil hynny yn golygu bod y cyfraddiad ar gyfer Effaith Amgylcheddol yn waeth yn hytrach nag yn well. Pam hynny?
Mae gwresogyddion storio’n cael eu hargymell am eu bod yn rhatach i’w rhedeg, gan ddefnyddio trydan sy’n rhatach yn ystod y nos. Serch hynny, mae cyfanswm y trydan sy’n cael ei ddefnyddio gan system gwresogyddion storio yn fwy na’r trydan sy’n cael ei ddefnyddio gan wresogyddion confensiynol. Oherwydd hynny mae’r Cyfraddiad Effeithlonrwydd Ynni yn well gan fod y costau rhedeg yn is ond mae’r Cyfraddiad Effaith Amgylcheddol yn waeth gan fod cyfanswm yr ynni a ddefnyddir yn cynyddu.


C. Dydy hynny ddim wedi ateb fy nghwestiwn i. Beth wna i nawr?
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r asesydd ynni. Mae’r manylion ar dudalen 2 o’r adroddiad. Os na fydd hynny’n datrys y mater, cysylltwch â’r cynllun achredu. Mae eu manylion nhw hefyd ar dudalen 2 o’r adroddiad.


Mae’r wybodaeth yn gymwys i’r ddeddfwriaeth, y fethodoleg a’r EPCs cyfredol.