For English language version visit: http://www.hieacymru.com/

1. Cyflwyniad

1.1Mae’r cytundeb hwn am yr Archwiliad ar gyflwr y Cartref("HCS"), Pecyn Gwybodaeth am y Cartref (“HIP”), y tystysgrif o Berfformiad Ynni (“EPC”) neu Adroddiad ar gyflwr y Cartref (“HCR”) yn bodoli rhwng Hieacymru (“Ni”) a’r cwsmer (“Chi”).

1.2Wrth gytuno i’r cytundeb rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen yr Amodau a’r Telerau hyn, ac eich bod yn cytuno â nhw.

1.3Unwaith i ni dderbyn y cadarnhâd eich bod yn cytuno i Hieacymru baratoi HCS, HIP,EPC neu HCR i chi (“yr archeb”) mae’r cytundeb yn un sydd wedi’i rwymo’n gyfreithlon.

1.4Mae’r cytundeb hwn yn cydymffurfio gyda chyfreithiau Cymru a Lloegr.

 

2. Eich Cyfrifoldebau

2.1 Mae gennych yr hawl cyfreithlon i werthu eich eiddo.

2.2 Dylai’r wybodaeth a ddarperir gennych fod yn wir a manwl, ac nid yn gamarweiniol. Nid yw Hieacymru yn cymeryd unryw gyfrifoldeb dros gywirdeb unryw wybodaeth a ddarperir gennych, ac ni ellir ein dal yn gyfrifol.

2.3 Byddwch yn talu’r ffî a nodwyd o fewn pythefnos i gwblhau a derbyn yr HCS,HIP,EPC neu HCR.

2.4Rydych yn cytuno i dalu unryw gostau ychwanegol ddaw i ran Hieacymru wrth gynhyrchu’r ddogfen cyn ryddhau’r HCS,HIP,EPC neu HCR cyflawn, gan gynnwys ond nid yn gyfyng

i dod o hyd i wybodaeth prydlesfraint neu gyffredinfraint gan gynnwys costau rheoli a osodir arnom

ii diffyg i gael mynediad i eiddo at bwrpas asesiad o egni a/neu adroddiad ar gyflwr cartref.

iii cwsmer yn darparu gwybodaeth anghywir.

2.5Rydych yn cytuno i ddarparu mynediad llawn i’r eiddo ar gyfer yr aseswr egni neu’r tirfesurydd ar amser a dyddiad penodedig y cytunwyd arno. Bydd methu â sicrhau mynediad yn golygu costau ychwanegol wrth orfod dod allan eto.

2.6Byddwch yn sicrhau bod gennych y meddalwedd anghenrheidiol ar gyfer darllen ffeiliau PDF e.e Adobe Reader

2.7Byddwch yn darparu copîau o’ch HCS, HIP, EPC neu HCR i rai sydd â diddordeb, yn ôl eu cais, ac yn storio’r copi-meistr.

 

 

3.       Cyfrifoldebau Hieacymru

3.1Rydym yn cadw’r hawl i wrthod neu derfynnu archeb ar unryw adeg.

3.2Bydd yr HIP yn cynnwys y dogfennau gorfodol fel y’u diffinir yn y “Rheolau Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref”.

3.3Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad EPC/HCR/HCS, fel arfer o fewn 2 ddiwrnod gwaith o osod yr archeb.

3.4Byddwn yn darparu’r archeb drwy fersiwn PDF electroneg, fel arfer o fewn 5 i 10 diwrnod gwaith wedi i’r asesiad ynni/tirfesuriad gymeryd lle. Bydd archebion yr eiddo prydlesfraint a chyffredinfraint yn cymeryd yn hirach i’w cwblhau. A fyddech cystal â gadael 28 diwrnod heblaw am pan fydd amodau neilltuol.

3.5Rhown wybod i chi drwy e-bost pan fydd yr archeb yn barod, gyda chyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho eich HIP/HCS/EPC/HCR.

3.6Gallwch ddefnyddio’r HIP a ddarperir ar gyfer unryw farchnata o’ch eiddo gan gynnwys hysbysebu preifat neu gydag asiantaeth-ystâd. Gallwn ddanfon copi o’ch HIP i’ch asiant-ystâd yn ôl y galw.

 

 

4.      Ad-daliadau

4.1Ni ellir dileu HIP/HCS/EPC/HCR wedi’r cyfarwyddyd i gychwyn, heb i Hieacymru ychwanegu costau, gan y bydd y gwaith ar gynhyrchu eich HIP/Archwiliad wedi cychwyn.

4.2 Wrth ddileu eich HIP/HCS, bydd unryw gostau dyledus i Hieacymru hyd y pwynt hynny, angen cael eu talu o fewn pythefnos. Gallair costau hyn gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyng i, archebu tystysgrif ar Berfformiad Enni, ymchwiliadau lleol, ymchwiliad draeniau, ymchwiliad cofrestriad tir ac unryw waith arall fyddai ei angen wrth baratoi eich HIP/HCS.

4.3 Mae darparu Pecynnau ar gyflwr y Cartref yn syrthio y tu allan i’r ddeddf Gwerthu o Hirbell gan y ceir eu dosbarthu fel”nwyddau wedi eu gwneud i gyfarwyddyd y cwsmer neu rai sy’n amlwg yn bersonol”.

4.4 Ni all ein cyfrifoldeb, o dan unryw amod, fod yn uwch na gwerth darparu’r HIP/EPC neu’r HCR.

4.5Nid ydym yn gyfrifol am gamsyniad yn yr HIP fydd yn seiliedig ar wybodaeth yn cynnwys, ond nid yn gyfyng i, rywbeth o’r gofrestr cyhoeddus, y tystysgrif o berfformiad egni, ymchwiliadau lleol, gwybodaeth a ddarperir gan y gwerthwr, y prydlesddaliwr neu asiantaeth rheoli.

4.6 Nid yw hyn yn effeitho ar eich hawliau stadudol fel prynwr.