For English Language details visit; http://www.hieacymru.com/
Mae HIEA Cymru yn darparu y gwasanaethau canlynol:
1. Yr Archwiliad ar Gyflwr y Cartref (HCS)
2.Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIP)
3. Tystysgrifau Perfformiad Ynni(EPC)
4. Adroddiadau ar Gyflwr Cartref (HCR)
Archwiliad Cartref (HCS)
Yr Archwiliad ar gyflwr y Cartref (HCS) (wedi'i gyflawni gan Archwiliwr cymwysiedig a Chofrestredig)
Gwasanaeth cyflym,cystadleuol a chyflawn i archwilio eich cartref newydd am unryw ddiffygion mawr a allai fod yn debygol o effeithio eich penderfyniad i brynu.
Bydd yr archwiliad yn cydnabod unryw broblemau mawr yn gynnar yn y broses o brynu ac mae wedid fonitro gan SAVA sef y "Surveyors and Valuers Association".
Mae SAVA yn rheoli archwilwyr ac mae ganddynt enw-da sefydliedig fel arbenigwyr o ran safonau archwiliadau tai; maent yn sicrhau archwiliadau trylwyr a gweithrefniant o sicrwydd ansawdd sydd wedi'u cynllunio i sicrhau hyder i'r cwsmer.
Am fanylion llawn o gynnwys yr archwilad HCS ewch i'r dudalen Croeso.
Y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref (HIP)
Bydd cartrefi ddaw ar werth ar y farchnad o 14 rhagfyr 2007 yng Nghymru a Lloegr angen Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Mae’r pecyn yn cynnwys tystysgrif o Berfformiad Egni, sy’n cynnwys cyngor ar sut i leihau ar ledaeniad carbon a chostau tanwydd. Ceir hefyd dogfennau megis datganiad o werthiant, archwiliadau a thystiolaeth o deitl.
Gweler y dudalen Cartref am fanylion llawn o gynnwys yr HIPs.
Y Tystysgrif ar Berfformiad Ynni (E.P.C.)
Rhoddir tystysgrifau ar berfformiad egni i brynwyr a gwerthwyr tai, ar raddfa o A i G, fydd yn dynode effeithiolrwydd egni’r cartref wrth helpu i leihau ar ledaeniad carbon a chostau tanwydd. Mae ein cartrefi eisoes yn gyfrifol am 27% o ledaeniad carbon y Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang.Mae’r tystysgrif ar Berfformiad Egni wedi’i gynllunio i gynorthwyo perchnogion tai i leihau yr argraff ddrwg a wneir gan ein cartrefi ar yr amgylchedd. Amcangyfrifa’r Ymddiriedolaeth Cynilo Egni bod modd achub £300 y flwyddyn ar gyfartaledd mewn costau tanwydd wedi dilyn yr argymhellion a geir yn y Tystysgrif ar Berfformiad Egni y cartref.
Mae’r Tystysgrif Perfformiad Egni yn cael ei gynhyrchu’n gyfrifiadurol ac mae’n cyfrifo effeithiolrwydd egni y cartref unigol. Mae’r adroddiad hefyd yn cynwys cynigion arfaethedig a mesurau ar gyfer gwella perfformiad egni’r cartref dan sylw. Mae’r siart isod yn enghraifft o’r dull a ddefnyddir i recordio cyfraddau presennol y cartref ynghyd a’r cyfraddau y gellir eu cyflawni (drwy ddilyn y canllawiau a gynigir ar gyfer cynilo egni).

Yr Adroddiad ar Gyflwr y Cartref (HCR)
Cynhwysa’r Adroddiad ar Gyflwr y Cartref wybodaeth am gyflwr corfforol yr eiddo y gall gwerthwyr, prynwyr a benthycwyr ddibynnu arno’n gyfreithlon fel adroddiad cywir a manwl a fydd yn hawdd i’w ddeall.
Mae’r adroddiad ar gyflwr y Cartref yn parhau i fod yn ran o’r pecyn y gellir ei gynnwys gan werthwyr mewn modd gwirfoddol. Gellir defnyddio’r adroddiad gan brynwyr tebygol ar gychwyn y broses o brynu cartref er mwyn sicrhau na’u wynebir gan filiau trwsio annisgwyl neu unryw ymroddiad arall na ellir ei fforddio. Bydd gwerthwyr fydd yn darparu Adroddiad ar Gyflwr Cartref yn cael cyfle cynnar i gwblhau gwaith trwsio ar yr adeilad neu i dderbyn amcangyfrifon o gostau, a hynny cyn dechrau marchnata. Gall fenthycwyr elwa hefyd drwy ddefnyddio’r adroddiadau i roi sylwedd i’w prisio, gan leihau’r angen am ailadrodd ymchwiliadau manwl ar y safle a hynny ar draul ariannol y prynwyr.
Creda’r Llywodraeth y bydd llês sylweddol i brynwyr tai os fyddant yn ychwanegu i’w pecynnau gan gynnwys Adroddiadau llawn ar gyflwr y Cartref, a bod hwn yn gynnyrch y gall y farchnad ddarparu.
Rhaid i’r Adroddiad ar gyflwr y Cartref ( yr HCR) gael ei gwblhau gan Arolygydd Cartrefi trwyddedig, ac mae’n cynnig dewis amgenach a llai chostus na’r tirfesuriad (Survey) traddodiadol ar gyfer Prynwyr Tai.
Saflêoedd Gwe Defnyddiol.
- http://maps.environment-agency.gov.uk (adroddiad ar lifogydd)
- http://www.voa.gov.uk (taliadau cymunedol)
- http://www.estyn.gov.uk/ (adroddiadau ysgolion Cymru)
- http://www.ofsted.gov.uk/reports (adroddiadau ysgolion Lloegr)
- http://www.upmystreet.com (prisiau diweddaraf gwerthiant tai)
- http://www.homecheck.co.uk (adroddiadau amgylchfydol)