For English Language details go to: http://www.hieacymru.com/
Amdanom Ni
Mae HIEACymru yn ddarparwr HIPS ac Archwiliadau Cartrefi Preswyl (Residential Property Surveryor).
Mae HIEA Cymru yn Archwiliwr Cartrefi-Preswyl Trwyddedig Annibynol, yn ddarparwr o becynnau gwybodaeth am y cartref (HIPS) ac hefyd yn darparu Asesiadau Egni. Wedi ein lleoli yng Nghaerdydd 'rydym yn cynnig gwasanaeth trwy gydol Morgannwg, Caerfyrddin a Gwent. Yn drwyddedig drwy SAVA (Surveyors and Valuers Association) ein nod yw i ddarparu gwasanaeth cyflym, cyfeillgar a phroffesiynol, gan weithio yn uniongyrchol i gleientiaid, asiantaethau -ystâd a chyfreithwyr.
Y gwasanaethau a ddarperir yw:
- Adroddiadau Ar Gyflwr Cartrefi (Home Condition Surveys)
- Darparwyr HIP
- Tystysgrifau Perfformiad Ynni (Energy Performance Certificates)
- Adroddiadau ar Gyflwr Cartrefi (Home Condition Reports)
- Asesiadau i Adeladau Cyhoeddus (Public Buildings Energy Assessor) DECs (Display Energy Certificates)
Disgwylir i’r cylchdro ar gyfer HIP llawn gymeryd oddeutu 5 i 10 diwrnod, er bod hynny’n dibynnu ar effeithiolrwydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaethau Defnyddiau wrth gyflawni ymchwiliadau. Rydym yn rhagweld cylchdro o dri diwrnod ar gyfer ein tystysgrifau Perfformaid Egni a’n Adroddiadau ar Gyflwr Cartrefi.
Gellir danfon yr holl adroddiadau a gyflawnir naill ai ar ffurf electronig neu fel copi caled.
Danfonir eich HIP yn uniongyrchol at yr Asiant-Ystâd o'ch dewis.
ARCHWILIADAU AR GYFLWR CARTREF (HCS)
Mae'r Archwiliad ar gyflwr Cartrefi Preswyl yn cynnwys gwybodaeth am gyflwr corfforol yr adeilad, ac wedi'i gyflawni gan Archwiliwr Trwyddedig annibynol gyda chymwysterau llawn. mae'r adroddiad yn hawdd i'w ddeall ac yn osgoi 'jargon' cyfreithiol. Mae'r adroddiad manwl yn cynnwys Graddfeydd cyflwr syml ar raddfa 1/2/3 am holl agweddau allweddol yr adeilad.
Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am:
-
Cyflwr a Gwendidau Adeilad
-
Unryw symudiad yn yr adeiladaeth
-
Unryw ddamprwydd, pydriad neu enwair-pren
-
Gwasanaethau trydanol a gwresogaeth
-
Adnewyddiadau
-
Draeniau
-
Materion Amgylcheddol
-
Costau Ailsefydlu yswiriant
HIPS
Cynnwys y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref
Mae Rheolau 2006 ar y pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn gosod allan yr amodau ar y cynnwys ‘sydd ei angen’ ac ‘awdurdodedig’ yn y Pecyn. Rhaid cynnwys y ddogfennaeth y gofynnir amdano yn y pecyn lle bo’n briodol, a gellir hefyd gynnwys dogfennau awdurdodedig yn ôl dewis y gwerthwr.
Y dogfennau ‘sydd eu hangen’ yw:
- Mynegair (h.y., rhestr o gynnwys y pecyn)
- Datganiad o werthiant (yn crynhoi amodau’r gwerthiant)
- Tystiolaeth o deitl
- Archwiliadau safonol (h.y. ymholiadau awdurdod lleol ac archwiliad dwr a thirddraeniad
- Tystysgrif Perfformiad Egni
- Lle bo’n briodol, gwybodaeth daeliad-cyffredin (gan gynnwys copi o’r datganiad cymunedol ar daelaiaid-cyffredin)
- Lle bo’n briodol, gwybodaeth prydles (gan gynnwys copi o’r prydles, gwybodaeth ar gostau gwasanaethau ac yswiriant)
- Lle bo’n briodol, Gwarantiad Cartrefi Newydd
- Lle bo’n briodol, adroddiad ar gartref nad yw’n gorfforol gyflawn *Adroddiad ar Gyflwr Cartref (gwirfoddol ar hyn o bryd)
- Adroddiad ar gyfer cartrefi (yn wirfoddol ar hyn o bryd)
Y dogfennau ‘awdurdodedig’ yw:
- Mechniwyr a Gwarantiaid
- Archwiliadau eraill ar gyflwr yr adeilad y gall gwerthwyr, prynwyr a benthycwyr allu dibynnu arnynt yn gyfreithlon fel adroddiadau teg sy’n hawdd i’w deall.
Mae’r Adroddiad ar Gyflwr y Cartref yn parhau i fod yn ran o’r Pecyn y gellir ei gynnwys gan werthwyr mewn modd gwirfoddol. Gellir defnyddio’r Adroddiad gan brynwyr tebygol ar gychwyn y broses o brynu cartref er mwyn sicrhau na’u wynebir gan filiau trwsio annisgwyl neu unryw ymroddiad arall na ellir ei fforddio.
Bydd gwerthwyr fydd yn darparu Adroddiad ar Gyflwr Cartref yn cael cyfle cynnar i gwblhau gwaith trwsio ar yr adeilad neu i dderbyn amcangyfrifon o gostau a hynny cyn dechrau marchnata. Gall fenthycwyr elwa hefyd drwy ddefnyddio’r adroddiadau i roi sylwedd i’w prisio, gan leihau’r angen am ailadrodd ymchwiliadau manwl ar y safle a hynny ar draul ariannol y prynwyr.
Creda’r Llywodraeth y bydd lles sylweddol i brynwyr tai os fyddant yn ychwanegu i’w pecynnau gan gynnwys Adroddiadau Llawn ar Gyflwr y Cartref, a bod hwn yn gynnyrch y gall y farchnad ddarparu. Rhaid i’r Adroddiad ar Gyflwr y Cartref (yr HCR) gael ei gyflawni gan Arolygydd Cartrefi trwyddedig, ac mae’n cynnig dewis amgenach a llai chostus na’r Tirfesuriad (Survey) traddodiadol ar gyfer Prynwyr Tai.